| Scenic Bus Ride Wales UK |
|
|

Featured Article
|
Snowdon Sherpa'r Wyddfa gan John Davies, Huw Percy ac Terry Jackson

"Yn Eich Tywys o amgylch Eryri."

Cewch anghofio am orfod gyrru, wrth ymlacio a mwynhau golygfeydd a swˆyn Eryri drwy fanteisio ar wasanaeth bws y Sherpa, bysus a threnau lleol eraill. Does dim gwahaniaeth os ydych yn aros ar arfordir Gogledd Cymru neu yng nghefn gwlad, y gwasanaethau hyn yw'r ffordd orau i fwynhau diwrnod gwych ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Click on index items / Use back-to-top buttons to return.
|
|
|
|
1. Cyflwyniad
|
|
Mae pawb ar eu hennill pan ddefnyddiwch y Sherpa. Anghofiwch orfod bustachu wrth yrru neu barcio, yn hyderus fod yr amgylchedd unigryw yn cael ei ddiogelu wrth i chi ddefnyddio dull cynaladwy o deithio.

Fyddwch chi ddim ar eich colled o ran hwylustod. Gall y Sherpa fynd â chi led led Gogledd Eryri gan gysylltu gyda llwybrau cerdded, gweithgareddau gwyliau, ardaloedd hardd ac amrywiaeth o gyrchfannau mynydda.

Bu'r Sherpa yn olygfa gyfarwydd ar ffyrdd Eryri ers blynyddoedd. Yn newydd ar gyfer 2004 mae cyfnewidfa rhwng y bws a'r trên ym Metws-y-Coed a chyfle i deithio ar fws deulawr to agored sydd hefyd gyda lle i feics rhwng Betws-y-Coed a Phen-y-Pass. Beth am fynd i fyny'r Pass ar y bws a beicio yn ôl i lawr! Mae'r Sherpa yn ddelfrydol ar gyfer teithiau byr gan fod amserlen ddydd hyblyg ac aml, a threfniadau llyfn wrth gysylltu gyda bysiau eraill. Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth i ymweld â chyrchfannau a phentrefi'r mynyddoedd a'u cyfoeth o atyniadau a chyfleon siopa. Neu, os ydych yn fwy eginol, gall y bws fynd â chi at droed un o'r llwybrau cerdded mynydd poblogaidd ac yna eich codi eto yn y dyffryn ar ddiwedd y prynhawn. Dyma rai o'r amryw o atyniadau a phrofiadau y gellwch eu mwynhau drwy ddefnyddio'r Sherpa:

Pen-y-Pass man cychwyn dau o'r llwybrau mwyaf poblogaidd i gopa'r Wyddfa.
|
|
|
|
|
Mae'r Rhaeadr Ewynnol gerllaw werth ei weld ac mae safle Sherpa yno.

Capel Curig mae dau wasanaeth Sherpa yn rhedeg drwy'r pentref, sy'n fan cychwyn gwych i fynyddoedd y Glyderau a'r Carneddi (ar ôl dringo i'w copaon cewch deithio yn ôl o Pen-y-Pass neu o Lyn Ogwen).

Dewis arall yw defnyddio'r Sherpa i deithio o amgylch harddwch yr ardal. Gallwch wneud cylchdaith o Landudno, Bangor neu o Gaernarfon ac yn ôl, hyn i gyd ar un tocyn. Os hoffech gyfuno bws a stêm, stopiwch yn Rhyd Ddu a theithio ar Reilffordd Ucheldir Cymru i Gaernarfon. Mae'r tocyn Rover Coch yn cynnig arbedion ar bris y trên (gweler y Ffordd i Deithio).
|
|
|
|

2. Y Ffordd I Deithio
|
|
Amserlenni
Cliciwch ar y llwybr i gael manylion amserlenni Haf 2005. Gallwch brintio neu ddadlwytho’r wybodaeth ar ddisgiau caled mewn ffurf Adobe Acrobat PDF.

|
|
Mae Tocyn Dydd Sherpa'r Wyddfa yn caniatáu neidio ymlaen ac i ffwrdd fel y mynnoch drwy'r dydd ar y rhwydwaith rhwng Bethesda, Llanberis, Llanrwst, Porthmadog a Waunfawr. Prynwch y tocyn ar y bws am £3 y dydd i oedolion a £1.50 i blentyn. Mae Llwybrau S1 i S4 oll yn cyfarfod ym Mhen-y-Pass. Mae llwybrau S4 a 97A yn cyfarfod ym Meddgelert Mae Llwybr S3 yn cysylltu gyda threnau Dyffryn Conwy ym Metws-y-Coed.
 Mae Tocyn Rover Coch yn caniatáu teithio ar bob llwybr bws drwy Ogledd Eryri, ar drenau neu fysys Dyffryn Conwy rhwng Llandudno, Cyffordd Llandudno, Betws-y-Coed a Blaenau Ffestiniog ac ar lwybrau bysus 5/5X sy'n cysylltu Llandudno, Bangor a Chaernarfon.
|
|
|
|
Prynwch y tocyn am £4.95 neu £2.45 i blant, i gael teithio'n ddi-dor am ddiwrnod ac maent hefyd yn caniatáu £1 o ddisgownt ar Reilffordd Ffestiniog ac Reilffordd Ucheldir Cymru. Gallwch brynu'r tocynnau yma ar y bws, ar drên Dyffryn Conwy, neu yng ngorsafoedd trên Llandudno a Chyffordd Llandudno. Ymwelwch a http://www.traveline.org.uk neu ffonio 0870 608 2 608 am fwy o fanylion.
|
|
|

3. Tocyn Dydd Rhad
|
|
|
Tocyn Dydd Rhad Mae'r tocynnau hyn ar gael ar Reilffordd Dyffryn Conwy rhwng unrhyw 2 orsaf ar y lein. Tocynnau trwodd arbennig ydynt ar gyfer teithio ymlaen i Borthmadog ar Reilffordd Ffestiniog sy'n cynnig arbedion sylweddol. Mae tocyn dychwelyd dydd i Flaenau Ffestiniog yn cynnwys disgownt wrth ymweld ag Ogofau Llechi Llechwedd ac ar y bws sy'n mynd yn ôl ac ymlaen i'r orsaf drên.
|
|

4. Crwydro Dyffryn Conwy ar y Trên
|
|
|
Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy o Landudno i Flaenau Ffestiniog yn teithio drwy un o ardaloedd harddaf Cymru. Cewch ryfeddu ar gastell hanesyddol Conwy, a chyfoeth bywyd gwyllt aber Afon Conwy, cyn mynd ymlaen i weld y llethrau graddol yn newid yn glogwyni creigiog wrth i'r trên groesi'r Afon Lledr dros bont ddramatig Gethin. Cewch gipolwg ar dirwedd godidog, Castell Dolwyddelan sydd yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif, hen chwareli a llwybrau, coedwigoedd a chopaon Eryri cyn cyrraedd twnel yng nghrombil Eryri. Pan ddewch allan o hwn rai munudau yn hwyrach, bydd golygfeydd dramatig tirwedd diwydiannol
|
 |
|
cyn 'brifddinas llechi' gogledd Cymru, Blaenau Ffestiniog o'ch blaen. Mae manylion amserlen trenau ar gael drwy ymweld a http://www.arrivatrainswales.co.uk neu drwy ffonio 0870 608 2 608.
|
|

5. Taith Unigryw at droed Yr Wyddfa 
|
|
 |
Mae bws Sherpa deulawr to agored* yn gadael Llandudno yn ddyddiol am 09.50 ar daith fythgofiadwy i Ben-y-Pass a man cychwyn dau lwybr poblogaidd i gopa'r Wyddfa. Mae'r bws wedyn yn teithio yn ôl ac ymlaen i Fetws-y-Coed drwy'r dydd cyn dychwelyd o Ben-y-Pass i Landudno am 17.45. Cewch fwynhau golygfeydd ac awyr iach Eryri ar y lefel uchaf; tra gallwch gludo eich beics yn y gwaelod (gan gofio ei bod hi lawr allt oddi yno!).

|

*mae'r bws deulawr to agored sy'n cludo beics ar gael hyd at 30 Hydref 2005.
|
|

6. Gwybodaeth Bellach 
|
|
 |
Am wybodaeth llety, atyniadau neu ddigwyddiadau o fewn ardal rhwydwaith Sherpa'r Wyddfa ymwelwch ag 'Eryri Mynyddoedd a Môr' ar http://www.StayingInWales.com neu ffonio 0870 516 8 767 (9am-6pm Llun-Gwen neu 10am-5pm Sad). Os hoffech gael mwy o wybodaeth am barc Cenedlaethol Eryri yna ymwelwch a'r safle we neilltuol sef http://www.eryri-npa.co.uk.
|
|

7. Amserlenni 
|
|
 |
Cliciwch ar y llwybrau a ddangosir odan y penawd 2. Y Ffordd i Deithio er mwyn cael amserlenni unigol Haf 2005. Mae manylion amserlen y Sherpa a gwasanaethau trên a bws lleol ar gael ar daflenni amseroedd trafnidiaeth Cynghorau Gwynedd a Chonwy. Yn ogystal meant ar gael gan letywyr a chanolfannau croeso yn yr ardal.
|
|
Ymwelwch a http://www.arrivatrainswales.co.uk am amseroedd trenau. Mae gwybodaeth am amserlenni bws a thrên ar gael yn http://www.Traveline.org.uk neu drwy ffonio 0970 608 2 608.
|
|

Associated Features
Through the Heart of Wales
Two Fantastic Journeys on Just One Ticket!
My Escape to the Cambrian Coast
Eryri-Rhwng y Graig a'r Tonnau
Snowdon Sherpa'r Wyddfa; English
The Flexible Travelling Companion
|
|
| |
|
|
© Wales.info 2013.
Business Cluster Marketing Systems Limited.
Registered in Wales and England No. 6185399. VAT reg. no. (TBA) |