Scenic Railways Wales UK
Back      Home Page | Tourism Wales UK Site Map
A-Z Listings
Find Accommodation




Featured Article
Eryri-Rhwng y Graig a'r Tonnau gan Dylan Iorwerth

Mae'n Mae yna un ardal sy'n crynhoi holl amrywiaeth Cymru - yr harddwch a'r gweithgareddau, y caledi a'r rhamant, yr hanes a'r diwylliant. Ac yn Eryri, mae popeth o fewn ychydig filltiroedd cyfleus...

Ers canrifoedd, mae ymwelwyr wedi heidio i Eryri. Cyn bod sôn am ddiwydiant twristiaeth, roedd y mynyddoedd a'r môr yn cael eu cymharu gyda harddwch yr Alpau a glannau'r Môr Canoldir.

Mae'n hawdd deall pam. O fewn llai na hanner awr fe allwch fod yn gwlychu eich traed ar draeth hirfelyn Dinas Dinlle ac wedyn yn gwisgo sgidiau cadarn i gerdded hyd lwybrau'r Carneddau neu Grib Nantlle.

I Does dim rhaid teithio ymhell chwaith i ddod ar draws rhyfeddodau dyn - o fawredd cestyll y Normaniaid i ddewrder balch Dolwyddelan neu Ddolbadarn lle mae un twr yn herio'r elfennau gyda Chwarel Dinorwig ar un ochr a'r Wyddfa ei hun ar y llall.

Heb fod ymhell o'r ddau le hwnnw, mae enghreifftiau o'r ffordd y mae hen ryfeddodau'n cael eu haddasu at bwrpas newydd. Mae chwareli yn Llanberis a Blaenau Ffestiniog erbyn hyn yn atyniadau o bwys ac mae hen ffyrdd y chwarelwyr yn creu rhwydwaith o lwybrau gwerth chweil ar hyd ac ar led yr ardal.

I lawr at Ben Llyn, fe welwch chi'r un gymysgedd o gymeriad yr hen yn plethu i hwylustod y newydd gyda thraethau ac aberoedd sy'n nef am nofio a chwaraeon dwr. Does dim fel gweld hwyl wen yn trolli yn erbyn y machlud gyda dirgelwch Ynys Enlli yn gysgod llawn cyfaredd y tu cefn.

A dyna goron Eryri - y diwylliant Cymraeg bywiog ar un ochr a'r cyfoeth rhyfeddol o fywyd gwyllt ar ei daear a dan y don. Dyna oedd yn denu'r trafaelwyr hynny gannoedd o flynyddoedd yn ôl ac mae'n dal i wneud hynny heddiw.

Associated Features

Through the Heart of Wales
Two Fantastic Journeys on Just One Ticket!
My Escape to the Cambrian Coast
Snowdon Sherpa'r Wyddfa
The Flexible Travelling Companion
 

Terms & Conditions | About Us | Contact Us

© Wales.info 2008.
Business Cluster Marketing Systems Limited.
Registered in Wales and England No. 6185399. VAT reg. no. (TBA)