Keyphrase search:  



Back      Home Page Site Map
A-Z Listings
Find Accommodation

Featured Article
Gwlad y Bwyd, Bwyd y Wlad gan Dylan Iorwerth

Yr hen gred oedd mai bwyd oedd yr allwedd i galon dyn; yn sicr, mae'n un ffordd o ddod i adnabod Cymru - y wlad a'r ffordd o fyw.

Cynnyrch naturiol sydd yma - mae'r cig oen yn felysach am fod y defaid yn pori ar lechweddau a ffriddoedd, mae gwartheg duon Cymreig yn cael cyfle i aeddfedu'n iawn tra bod y caws a'r menyn yn adlewyrchu glesni'r dolydd.

Mae cyfoeth y môr o fewn cyrraedd bob amser a rhai o afonydd Cymru yn parhau ymhlith goreuon gwledydd Prydain. Os yr eog oedd brenin y pysgod, y sewin yw tywysog Cymru.

O gocos i fara lawr, mae bwydydd traddodiadol yn dangos sut yr oedd yr hen bobl yn defnyddio'r cynnyrch o'u cwmpas i greu prydau maethlon, cysurlon. Wrth i Gymru ddatblygu traddodiad newydd o goginio modern, amrywiol, mae'r un elfen ar waith.